Bwyta yn y Mwmbwls
Mae'n gartref i rai o'r bwytai gorau yn yr ardal, y Mwmbwls yw'r lle gorau i fwynhau cynnyrch lleol megis pysgod ffres a bwyd y môr, ac mae rhai ohonynt wedi'u dal ychydig lathenni o'r lan. Mewn ardal sy'n enwog am ei pharlyrau hufen iâ, mae'r rhai mwyaf enwog yn y Mwmbwls. Defnyddiwch ein hofferyn chwilio am fwytai i ganfod bwytai a chaffis yn y Mwmbwls.
Siopa yn y Mwmbwls
Mae'r Mwmbwls yn enwog am ei siopau a'i bwticau bach, annibynnol, caffis clyd, orielau celf, siopau crefftau a chrochendai, sy'n gwerthu popeth o lwyau caru wedi'u cerfio'n draddodiadol o Gymru, cig a bwyd môr lleol, i offer syrffio a ffasiwn o'r radd flaenaf.
Mae'r traethau cyfagos yn cynnwys Bae Bracelet a Bae Limeslade, y ddau ond ychydig funudau o siopau a bwytai'r Mwmbwls. Defnyddiwch ein hofferyn chwilio am draethau am fwy o fanylion am y traethau hyn a thraethau eraill Gwyr.
Mae hanes y Mwmbwls i'w weld yn glir drwy'r pentref. Adeiladwyd Goleudy'r Mwmbwls ym 1794 ac mae'n dal i rybuddio cychod sy'n mynd heibio am fanciau tywod o dan y môr, tra bod Castell canoloesol Ystumllwynarth yn cynnal perfformiadau theatr awyr agored yn ystod yr haf. Ewch i bier Fictoraidd y Mwmbwls i ymweld â'i gaffi a'i llyn sglefrio, neu ewch am daith ar Drên Bach Bae Abertawe - trên tir - sy'n teithio ar hyd glan y môr o Blackpill i Verdi's yn ystod yr haf. Hwn oedd llwybr 'Rheilffordd y Mwmbwls' yn y gorffennol a sefydlwyd ym 1807 fel y rheilffordd gyntaf i deithwyr yn y byd.
I weld lluniau o'r Mwmbwls, ewch i Oriel y Mwmbwls.